Bydd AS Llafur yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau ‘cyfran deg’ o arian i Gymru heddiw mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yn ôl Nia Griffith, Aelod Seneddol Llafur dros Lanelli, mae’r Ceidwadwyr wedi torri £1.4 biliwn o gyllideb Llywodraeth Cymru ac fe fydd yn galw am system newydd – ‘Llawr Barnett’ i ‘amddiffyn’ cyllideb Cymru.
Yn ôl Llafur, byddai’r system hon yn sicrhau fwy o wariant yng Nghymru, oherwydd ei bod yn ystyried anghenion ‘socio-economaidd’ y wlad.
“Mae Cymru yn haeddu ei chyfran deg o arian ac mae’n amser i Lywodraeth y DU sicrhau hyn,” meddai Nia Griffith.
“Wrth i bwerau newydd gael eu datganoli i’r Cynulliad, mae’n hollbwysig bod gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i ddarparu’r gwasanaethau sydd mor bwysig i bobl Cymru.”
Cymru’n cael £300 miliwn yn llai nag y dylai
Yn ôl canfyddiadau’r Comisiwn Holtham yn 2009, mae Cymru yn cael £300 miliwn yn llai o arian bob blwyddyn nag y dylai o dan y Fformiwla Barnett.
Y fformiwla hon sy’n pennu faint o arian y dylai Llywodraeth Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ei gael o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ar hyn o bryd, mae swm yr arian sy’n cael ei roi yn dibynnu ar faint poblogaeth bob gwlad a pha bwerau sydd wedi cael eu datganoli i bob un.
Ond mae sawl un wedi dweud bod y system hon yn annheg, gan nad yw hi’n cymryd i ystyriaeth gwir anghenion bob gwlad. A thra bod Cymru’n cael ei ‘thangyllido’, yn ôl rhai, mae’r Alban yn cael mwy o arian nag y dylai.
Blocio cynnydd o £10,000 yng nghyflogau ACau
Yn y cyfamser, fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn galw ar bob plaid wleidyddol i bleidleisio yn erbyn cyllideb newydd y Cynulliad ddydd Mercher, er mwyn rhwystro cynnig i roi cynnydd o £10,000 i gyflogau Aelodau Cynulliad.
Mae Kirsty Williams, ynghyd â gwleidyddion eraill wedi beirniadu argymhelliad y Bwrdd Tâl newydd, i roi codiad cyflog o £10,000 i Aelodau Cynulliad, gan ddweud ei fod yn gwbl “amhriodol”.