Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb newydd â chwmni fferyllol a fydd yn rhoi’r cyfle i gleifion yng Nghymru gael cyffuriau canser newydd nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.

Wrth siarad yng nghynhadledd yr hydref Cymdeithas Brydeinig y Diwydiant Fferyllol yng Nghymru, datgelodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, fanylion y cytundeb gyda chwmni Novartis – y cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Bydd y cytundeb yn galluogi cleifion i gael y feddyginiaeth everolimus – sy’n cael ei marchnata o dan yr enwau masnachu Afinitor a Votubia – i drin mathau penodol o ganserau datblygedig ar yr arennau, y pancreas a’r fron, a thiwmorau ar yr ymennydd a’r arennau nad ydynt yn ganser ond sy’n gysylltiedig â sglerosis twberus.

Ar hyn o bryd, nid yw’r meddyginiaethau hyn ar gael fel mater o drefn yng Nghymru.

Astudiaeth i ganser y fron

Fel rhan o’r cytundeb, bydd Novartis yn buddsoddi tua £1.3m yng Nghymru i gynnal astudiaeth ar ganser y fron yn y prif ganolfannau oncoleg ac i gasglu data canlyniadau ar gyfer y cleifion sy’n dioddef o ganser y fron metastatig sy’n cael everolimus (Afinitor) ac exemestane (Aromasin).

Yn ogystal â hyn, mae’r cwmni hefyd yn buddsoddi tua £150,000 i gefnogi chwe rhaglen sy’n ail-ddylunio gwasanaethau, addysg a datblygiad gofal iechyd proffesiynol, gwella’r rhyngweithio â chleifion a chefnogi clinig sglerosis twberus yng Nghaerdydd.

‘Arloesol’

Dywedodd Vaughan Gething: “Mae’r fargen unigryw hon yn dangos ein bod yn gweithio i sicrhau bod cleifion yn gallu cael y meddyginiaethau diweddaraf sy’n arloesol a chost-effeithiol.

“Mae Novartis yn awyddus i gasglu data yn y byd real ac mae’r cytundeb dwy flynedd hwn yn adlewyrchu’r cydweithio rhwng y diwydiant a’r gwasanaeth iechyd i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth. Bydd hyn o fudd yn y pen draw i gleifion yng Nghymru ac eraill trwy’r Deyrnas Unedig.

“Rwy’n deall, er mwyn i Gymru fod yn lle deniadol i’r diwydiant fferyllol wneud busnes, fod angen i feddyginiaethau cwmnïau gael eu cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru.

“I wynebu’r her hon mae’n rhaid i ni feddwl yn fwy creadigol a nodi meysydd lle gallwn ni gydweithio i sicrhau bod meddyginiaethau newydd yn gost-effeithiol i’w defnyddio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.”