Tafarn y Corn Exchange, Crughywel
Mae aelodau o gymuned tref ym Mhowys wedi llwyddo i ddod i gytundeb i brynu adeilad hanesyddol ar eu stryd fawr, gan atal archfarchnad rhag cael ei adeiladu yno.

Mae’r aelodau yn rhan o grŵp gweithredol sy’n credu y byddai addasu tafarn y Corn Exchange yng Nghrughywel yn gadael “effaith andwyol ar eu stryd fawr unigryw.”

Mae’r dafarn yn adeilad rhestredig gradd 2, ac fe lwyddon nhw i ddod i gytundeb â pherchnogion yr adeilad, sef bwrdd Punch Taverns.

Y bwriad yw gwerthu’r dafarn am £300,000, a hynny ymysg 180 o bobol leol.

Mae gan yr ymgyrchwyr wyth wythnos i gwblhau’r cytundeb, a’u bwriad yn y pendraw yw adnewyddu’r dafarn yn fflatiau a siopau bychain.

“Rwyf wrth fy modd ac yn gyffrous bod bwrdd Punch wedi cymeradwyo’r gwerthiant,” meddai Emma Bevan, cadeirydd y grŵp gweithredu.

“Roeddem ni’n iawn i sefyll fyny yn erbyn y cynlluniau – a nawr fe allwn greu rhywbeth y bydd ein cymuned yn falch ohono.”

‘Teimlad cryf yng Nghrughywel’

 

Fe fydd y grŵp nawr yn ffurfio cwmni o’r enw Corn Exchange Crughywel Cyf.

Er eu bod wedi llwyddo i godi rhan helaeth o’r £300,000, maent yn rhagweld y bydd angen mwy o arian i adnewyddu’r adeilad.

Mae cyfreithiwr eiddo a gwirfoddolwyr o’r pwyllgor llywio eisoes wedi cynnal cyfarfodydd â phobol sydd â diddordeb mewn prynu’r dafarn.

“Mae’r aros ar ben o’r diwedd, a gallwn gymryd camau cadarnhaol at ddyfodol y Corn Exchange yng Nghrughywel,” meddai Dean Christy a fu’n arwain y trafodaethau.

Mewn datganiad fe ddywedodd y perchnogion, Punch Taverns: “Rydym yn deall fod teimlad cryf yng Nghrughywel dros warchod canol y dref a’i fasnachwyr annibynnol, ac rydym wrth ein bodd i gyrraedd cytundeb.”