Maes awyr Sharm el-Sheikh
Mae disgwyl i weddill y Prydeinwyr sydd wedi methu a gadael Sharm el-Sheikh yn yr Aifft wedi’r ddamwain awyren 11 diwrnod yn ôl, “ddychwelyd adref erbyn diwedd yr wythnos.”

Fe gafodd miloedd o bobol a oedd ar eu gwyliau yn y gyrchfan boblogaidd yn yr Aifft eu dal yno wedi’r ddamwain awyren, wrth i awdurdodau Prydain benderfynu atal hediadau yn dilyn pryder am fesurau diogelwch yn y maes awyr.

Bellach, mae’r Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond, wedi dweud y bydd yr holl drigolion o Brydain yn dychwelyd adref o’r Aifft erbyn diwedd yr wythnos.

Fe ddychwelodd 2,301 o deithwyr i’r DU ddydd Llun ar 11 o deithiau awyrennau o’r Aifft.

‘Tynhau diogelwch’

 

Cafodd 224 o bobol eu lladd pan blymiodd yr awyren Airbus A321, tua ugain munud ar ôl gadael maes awyr Sharm el-Sheikh yr wythnos diwethaf.

Mae ymchwilwyr i’r digwyddiad ‘90% yn sicr’ mai bom a ffrwydrodd yng nghaban y peilot a oedd yn gyfrifol am achosi’r awyren Rwsiaidd i blymio i’r ddaear.

Fe ddywedodd rhai o’r teithwyr a oedd wedi’u dal yn Sharm el-Sheikh fod diogelwch yn y maes awyr wedi “tynhau’n sylweddol.”

“Erbyn diwedd yr wythnos hon, rydym yn disgwyl i bawb fod wedi dychwelyd yn ol i’r DU. Felly, o dan yr amgylchiadau, mae’r broses o ddychwelyd pobol adref yn mynd yn esmwyth,” esboniodd Philip Hammond.