Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gwerth £6 miliwn i fynd i’r afael â diweithdra yn Nwyrain Cymru.

Fe fydd y prosiect, sy’n cael cymorth ariannol gan yr Undeb Ewropeaid yn ceisio gwella lefelau o ddiweithdra tymor hir ymysg pobl dros 25 oed.

Mae’r cynllun wedi cael ei bennu ar gyfer Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae hanner o’r arian, sef £3 miliwn ar gyfer y ‘Gronfa Cynhwysiant Gweithredol’ yn dod o’r Undeb Ewropeaidd ac fe fydd yn cael ei rheoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Gwella sgiliau gwaith

Bwriad y cynllun yw buddsoddi mewn sefydliadau arbenigol i gyflwyno rhaglenni sgiliau gyda’r nod o wella sgiliau gwaith 3,400 o bobl dros 25 oed sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir dros y tair blynedd nesaf.

Bydd nifer o bobl sy’n cael cymorth o dan y cynllun hwn wedi bod yn ddi-waith am amryw o resymau, gan gynnwys cyflyrau iechyd, diffyg sgiliau sylfaenol a phrofiad gwaith a bod yn ddibynnol ar y system les.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi dweud y byddan nhw’n rhoi’r cyfle i 400 o bobl ddi-waith gael lleoliadau gwaith chwe mis o hyd, a’r nod yw helpu 1,000 o bobl i gael swydd a chefnogi dros 700 i gael hyfforddiant ac addysg erbyn 2018.

Fe gyhoeddwyd cynllun o’r fath yn y gwanwyn, sydd hefyd yn cael cymorth gan yr Undeb Ewropeaidd, ar gyfer rhannau o Orllewin Cymru a’r Cymoedd.

Bydd y ddwy gronfa ond ar gael dros y tair blynedd nesaf ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd 10,000 o bobl dros 25 oed sy’n byw mewn diweithdra tymor hir yn cael cymorth i chwilio am waith.

£800 miliwn o’r UE yn helpu pobl Cymru

“Yn ystod y pum mlynedd nesaf, bydd dros £800 miliwn o gyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi i greu cyfleoedd i bobl ledled Cymru ddysgu sgiliau newydd, dychwelyd i’r gwaith, datblygu eu gyrfaoedd, ac ennill mwy o gyflog,” meddai Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru.

“Bydd y buddsoddiad hwn gan yr UE yn cefnogi’r bobl hynny sydd fwyaf mewn angen ac mewn perygl o dlodi yn Nwyrain Cymru, drwy ddarparu rhaglenni arbenigol a fydd yn eu helpu i oresgyn amgylchiadau anodd, gwella’u gallu i gael swydd, a’u helpu i fynd yn ôl i’r gwaith.”