David Cameron
Fe fydd David Cameron yn mynnu nad yw’r dasg o ail-drafod telerau aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn “amhosib”.
Bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno’i achos dros ad-drefnu’r UE mewn llythyr at lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, a hynny cyn y refferendwm a chaiff ei chynnal cyn diwedd 2017.
Dyma fydd y cam nesaf yn ei agenda ad-drefnu, ac mae’n cydnabod bod “tasg fawr o’i flaen” ond nad yw’n “hollol amhosibl.”
Amcanion
Yn ei araith yn Llundain, fe fydd yn cyflwyno’r pedwar amcan i ad-drefnu’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n nodi hefyd, pe byddai’r rheiny’n cael eu cyflawni y byddai’n argymell pleidlais i aros yn rhan o’r UE.
Mae’r amcanion yn cynnwys:
- Galw am fesurau i warchod marchnad sengl Prydain a’r gwledydd eraill nad sy’n rhan o barth yr ewro.
- Sicrhau ysbryd cystadleuol o fewn yr Undeb Ewropeaidd
- Esgusodi Prydain rhag bod yn rhan o undeb llawer mwy clòs a chryfhau seneddau cenedlaethol
- Mynd i’r afael â mewnfudo o’r Undeb Ewropeaidd
Mae’n nodi hefyd y dylid rhwystro mewnfudwyr o’r UE rhag ceisio am gredydau treth a budd-daliadau plant – tan y byddan nhw wedi byw yn y DU am o leiaf pedair blynedd.