Mae Rwsia yn  wynebu cael ei gwahardd o’r Gemau Olympaidd yn Rio 2016 ar ôl i ymchwiliad ddatgelu bod athletwyr wedi cymryd cyffuriau a hynny gyda “sêl bendith” yr awdurdodau yno.

Roedd comisiwn annibynnol a sefydlwyd gan Asiantaeth Wrthgyffuriau Chwaraeon y Byd (WADA) wedi datgelu bod 1,417 o samplau wedi cael eu dinistrio’n fwriadol yn dilyn gorchymyn gan gyfarwyddwr labordy oedd yn cynnal profion cyffuriau yn Rwsia.

Datgelwyd ei fod wedi cymryd arian er mwyn celu’r profion positif.

Dywedodd cadeirydd y comisiwn Richard Pound y dylai Rwsia gael ei gwahardd o’r Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd bod y Gemau yn Llundain yn 2012 wedi cael eu “niweidio” oherwydd presenoldeb athletwyr o Rwsia a oedd yn cael eu hamau o gymryd cyffuriau. Fe enillodd Rwsia 82 medal yn y Gemau yn Llundain.

Mewn cynhadledd newyddion yn Genefa dywedodd Pound y byddai’n “amhosib” i weinidog chwaraeon Rwsia, Vitaly Mutko, i beidio â bod yn ymwybodol o’r twyll.

Mae’r comisiwn hefyd wedi ei gwneud yn glir y gallai gwledydd eraill a chwaraeon eraill fod a phroblemau tebyg.

Mae llywydd y Gymdeithas Ryngwladol Ffederasiwn Athletau (IAAF), Sebastian Coe, wedi rhoi tan ddiwedd yr wythnos i Rwsia ymateb i’r honiadau yn adroddiad WADA.

Dywedodd Gweinidogaeth Chwaraeon Ffederasiwn Rwsia eu bod yn ymwybodol o’r problemau o fewn Ffederasiwn Athletau Rwsia (ARAF) a’u bod yn cymryd mesurau i wella’r sefyllfa.