Sebastian Coe, llywydd IAAF
Dylai Rwsia gael ei hatal rhag cystadlu mewn athletau, mae adroddiad gan Asiantaeth Gwrth-Gyffuriau Chwaraeon y Byd (Wada) wedi argymell.

Mae comisiwn annibynnol Wada wedi bod yn ymchwilio i honiadau o gymryd cyffuriau a llygredd ymhlith athletwyr o Rwsia.

Mae Wada am weld pum athletwr a phum hyfforddwr yn cael gwaharddiad oes am gymryd cyffuriau.

Mae’n dweud bod Gemau Olympaidd Llundain 2012 wedi cael eu niweidio gan y “diffyg gweithredu” yn erbyn athletwyr Rwsia a oedd yn cael eu hamau o gymryd cyffuriau gan y corff llywodraethu a ffederasiwn Rwsia.

Dywed yr adroddiad bod ‘methiannau’ yn y Gymdeithas Ryngwladol Ffederasiwn Athletau (IAAF) i atal rhaglen wrthgyffuriau ‘effeithlon’.

O ganlyniad i’r ymchwiliad, fe allai llywydd newydd yr IAAF, Sebastian Coe,  weithredu’n  llym yn erbyn rhai sy’n twyllo.

Mae eisoes wedi annog cyngor yr IAAF i ddechrau ystyried sancsiynau yn erbyn Rwsia.

Mae cyn-lywydd IAAF Lamine Diack yn wynebu cael ei wahardd fel aelod anrhydeddus o’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ar ôl i heddlu Ffrainc ddatgelu eu bod yn ymchwilio i honiadau ei fod wedi derbyn mwy na 1 miliwn ewro er mwyn celu’r ffaith bod athletwyr o Rwsia yn cymryd cyffuriau.

Roedd Diack, 82,  wedi camu o’i swydd fel llywydd IAAF ym mis Awst.