Garry Monk
Yn dilyn canlyniad gêm yr Elyrch yn erbyn Norwich ddydd Sadwrn, fe ddywedodd rheolwr Norwich Alex Neil y byddai cael gwared â Garry Monk “yn ddiwrnod trist i bêl-droed.”
Fe ddisgynnodd yr Elyrch i’r 14 safle yn yr uwch-gynghrair ddydd Sadwrn, ar ôl colli 1-0 i Norwich.
Mae honiadau fod dyfodol Garry Monk gyda’r Elyrch yn y fantol, gyda’r cyfarwyddwyr yn anhapus â chanlyniadau diweddar y tîm.
Dim ond un gêm y maen nhw wedi’i ennill allan o’r 9 gêm gynghrair ers mis Awst.
Mae adroddiadau yn sôn y gallai’r rheolwr gael ei ddiswyddo, ond fe wnaeth hyfforddwr Norwich, Alex Neil, ei amddiffyn gan ddweud fod yna “gyfnodau anodd” yn aml.
‘Ysbryd hyder’
Hyd yn hyn, does dim cymaint â hynny o dystiolaeth i awgrymu fod Garry Monk, 36 oed, o dan bwysau sylweddol yn ei broffesiwn.
Er hyn, yn dilyn y gêm ddydd Sadwrn, fe ddywedodd Garry Monk ei fod yn cydnabod nad oes ysbryd o hyder yn ei dîm ar hyn o bryd.
“Pan rydych chi mewn cyfnod tebyg i hyn, dyw eich hyder ddim yn mynd i fod ar ei gryfaf, ond mae’n rhaid ichi roi eich ffydd ynddyn nhw a dangos eich bod yn credu ynddyn nhw,” meddai.
“Rwy’n deall fod pêl-droed yn fusnes anodd a chreulon.”
Fe gafodd ei ragflaenydd, Michael Laudrup, ei ddiswyddo llai na blwyddyn wedi iddo ysbrydoli’r tîm i gyrraedd Cwpan y Gynghrair yn 2013.
Fe fydd gêm yr Elyrch yn erbyn Bournemouth ymhen pythefnos yn dyngedfennol i’r tîm, ac fe ddywedodd Garry Monk ei fod yn barod i “wynebu’r sialens.”