Dreigiau Casnewydd Gwent 12–19 Ulster

Colli mewn gêm glos fu hanes y Dreigiau wrth i Ulster ymweld â Rodney Parade yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.

Roedd y Cymry ar y blaen yn dilyn hanner cyntaf cryf, ond daeth Ulster yn ôl yn yr ail hanner gyda Paul Marshall yn sgorio unig gais y gêm.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Dreigiau yn dda iawn ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda chic gosb Dorian Jones wedi deg munud.

Anfonwyd canolwr Ulster, Stuart McCloskey, i’r gell gosb wedi hynny wrth i’r Dreigiau barhau i bwyso.

Ychwanegodd Jones ddwy gic gosb arall yn y deg munud canlynol ond ciciodd Paddy Jackson bwyntiau cyntaf Ulster yn yr un cyfnod.

Gyda phymtheg dyn yn ôl ar y cae, fe lwyddodd Jackson gyda chic gosb arall i gau’r bwlch i dri phwynt ar yr egwyl.

Ail Hanner

Roedd Ulster yn well wedi troi, a gyda chapten y Dreigiau, Raynard Landman, yn y gell gosb, fe ddaeth Marshall y mewnwr o hyd i fwlch wrth fôn y ryc i groesi am gais i’r Gwyddelod.

Rhoddodd trosiad Jackson yr ymwelwyr bedwar pwynt ar y blaen ond roedd y Dreigiau yn ôl o fewn un toc wedi’r awr yn dilyn cic gosb Jason Tovey.

Ciciodd Jackson ddwy gic gosb arall o fewn dau funud i’w gilydd i roi Ulster saith pwynt ar y blaen gydag wyth munud yn weddill.

Treuliodd y Dreigiau y munudau olaf i gyd yng nghysgod pyst Ulster yn chwilio am y trosgais a fyddai’n rhoi gêm gyfartal iddynt, ond er curo a churo ar y drws bu rhaid bodloni ar bwynt bonws yn unig yn y diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Dreigiau yn nawfed yn nhabl y Pro12.

.

Dreigiau

Ciciau Cosb: Dorian Jones 11’, 17’, 20’, Jason Tovey 63’

Cerdyn Melyn: Rynard Landman 44’

.

Ulster

Cais: Paul Marshall 51’

Trosiad: Paddy Jackson 51’

Ciciau Cosb: Paddy Jackson 26’, 35’, 70’, 72’

Cardiau Melyn: Stuart McCloskey 16’, Rory Best 62’