Brackley Town 2–2 Casnewydd                                                    

Mae Casnewydd yn yr het ar gyfer ail rownd y Cwpan FA ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Brackley Town ar St. James Park yn y rownd gyntaf brynhawn Sul.

Rhoddodd goliau hanner cyntaf Lenell John-Lewis a Scott Bennett yr Alltudion ar y blaen, ond tynnodd Brackley un yn ôl toc cyn yr awr cyn unioni’r sgôr yn hwyr yn y gêm.

Chwarter awr oedd ar y cloc pan roddodd Lenell John-Lewis yr ymweleyr o Gymru ar y blaen o’r smotyn wedi trosedd Pablo Mills arno yn y cwrt cosbi.

Roedd John-Lewis yn ei chanol hi eto bedwar munud cyn yr egwyl, yn creu’r ail i Scott Bennett.

Dylai dwy gôl o fantais fod wedi bod yn ddigon yn erbyn tîm o ddwy gynghrair yn is ond nid felly y bu.

Peniodd Luke Graham gic gornel Richard Batchelor i gefn y rhwyd i’w gwneud hi’n 1-2 gyda hanner awr i fynd.

Yna, yn y pumed munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm fe beniodd Curtis McDonald heibio i Joe Day o groesiad Tom Winters i achub gêm gyfartal i’r tîm cartref.

Bydd y gêm yn cael ei hail chwarae ar Rodney Parade wythnos i nos Fawrth.

.

Brackley Town

Tîm: Hornby, Hawtin (Smith 93′), Graham, Mills, McDonald, Odhiambo (Moyo 81′), Batchelor, Clarke, Walker (Winters 81′), Diggin, Akintunde

Goliau: Graham 59’, McDonald 90’

Cerdyn Melyn: Hawtin 90’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Bennett, Donacien, Partridge, Barnum-Bobb (Holmes 73′), Byrne, Elito, O’Sullivan (Rodman 78′), Barrow, Ansah, John-Lewis (Boden 45′)

Goliau: John-Lewis 15’, Bennett 41’

Cerdyn Melyn: Barnum-Bobb 31’

.

Torf: 1,707