Mae Fulham wedi diswyddo’r rheolwr Kit Symons ar ôl iddyn nhw golli o 5-2 yn erbyn Birmingham ddydd Sadwrn.
Mae’r canlyniad yn golygu eu bod nhw’n ddeuddegfed yn y Bencampwriaeth.
Ymddiswyddodd Symons, 44, o’i swydd fel is-reolwr Cymru ym mis Mehefin i ganolbwyntio ar ei swydd fel rheolwr Fulham.
Bu wrth y llyw yn Fulham ers mis Hydref y llynedd.
Dywedodd cadeirydd Fulham, Shahid Khan ei bod hi’n bryd cael “lefel uwch o lwyddiant”.
Enillodd Symons 22 allan o 64 o gemau, gan orffen yn ail ar bymtheg yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.