Mae rheolwr Abertawe, Garry Monk wedi mynegi ei bryder am berfformiadau’r Elyrch yn dilyn canlyniad siomedig yn Norwich brynhawn Sadwrn.

Collodd yr Elyrch o 1-0 yn Carrow Road, sy’n golygu mai un fuddugoliaeth yn unig maen nhw wedi’i chael yn yr Uwch Gynghrair ers mis Awst.

Mae Monk wedi wfftio honiadau bod prinder syniadau ganddo fe a’r garfan ynghylch sut i wella’u perfformiadau.

Dywedodd: “Wrth gwrs fy mod i’n gofidio. Ry’n ni yma i ennill gemau a chael pwyntiau.

“Yn ystod fy nghyfnod fel rheolwr, ry’n ni wedi gwneud hynny’n dda iawn.

“Mae’r cyfnodau anodd yn rhan ohoni ac yn rhan o fod yn rheolwr.

“Rwy’n deall beth sydd angen ei wneud, ond wrth gwrs ei fod yn bryder.”

Ond dywedodd Monk ei fod yn barod i frwydro am weddill y tymor, a bod y chwaraewyr yn ddigon da i aros yn yr Uwch Gynghrair.

“Rhywbeth bach ychwanegol sydd ei angen nawr a fy nyletswydd i yw sicrhau hynny gan y chwaraewyr ac iddyn nhw ganolbwyntio ar hynny hefyd.”