Dylai Llywodraeth Cymru drefnu digwyddiad i ffarwelio â chwaraewyr pêl-droed Cymru’r flwyddyn nesaf cyn i ddyn nhw deithio i Ffrainc ar gyfer Ewro 2016, yn ôl un Aelod Cynulliad.
Fe sicrhaodd y tîm eu lle ym Mhencampwriaethau Ewrop, eu twrnament rhyngwladol cyntaf ers 1958, fis diwethaf yn dilyn gemau rhagbrofol yn erbyn Bosnia ac Andorra.
Mae’r sylw nawr wedi troi tuag at y paratoadau ar gyfer yr Ewros, sef trydedd gystadleuaeth chwaraeon fwyaf y byd ar ôl Cwpan y Byd a’r Gemau Olympaidd.
Ac yn ôl Bethan Jenkins, sydd eisoes wedi annog Llywodraeth Cymru i sefydlu parthau cefnogwyr o gwmpas Cymru adeg y twrnament, byddai derbyniad ym Mae Caerdydd yn ffordd dda o ddangos cefnogaeth i’r tîm cyn iddyn nhw ymadael am Ffrainc.
Dymuno’n dda
“Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod camp aruthrol Chris Coleman, Ashley Williams a gweddill yr hogiau yn cyrraedd Pencampwriaethau Ewrop,” meddai Bethan Jenkins, llefarydd Plaid Cymru ar chwaraeon a hamdden.
“Pa ffordd well i wneud hynny na threfnu derbyniad arbennig yn y Senedd ar ran y genedl cyn iddynt ymadael am Ffrainc?
“Byddai hefyd yn rhoi cyfle i bobl ddymuno’n dda i’r tîm wrth iddynt gychwyn ar eu hynt, a dangos bod y genedl yn gefn iddynt, oherwydd bod hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ddilynwyr y bêl gron.
“Mae Llywodraeth Cymru cyn hyn wedi cynnal derbyniadau i’r pencampwyr Olympaidd, Paralympaidd ac eraill wedi iddynt lwyddo mewn gwahanol gampau.”
‘Dechrau cynllunio’
Fe fydd y garfan yn cael cyfle i ddod at ei gilydd i ymarfer a chwarae gemau cyfeillgar yng Nghaerdydd cyn iddyn nhw deithio i Bencampwriaethau Ewrop, sydd yn dechrau ar 10 Mehefin.
Byddai’r cyfnod hwnnw ychydig wythnosau cyn y twrnament yn gyfle perffaith, yn ôl Bethan Jenkins, i gefnogwyr gael talu teyrnged unwaith eto i gamp y chwaraewyr sydd wedi cael eu galw’n genhedlaeth aur.
“Y twrnamaint pêl-droed y flwyddyn nesaf fydd y tro cyntaf i’r wlad ymddangos mewn digwyddiad o’r fath ers 1958. Alwn ni ddim gadael i hynny fynd heibio heb gydnabyddiaeth, oherwydd waeth beth fydd yn digwydd yn y twrnamaint, mae tîm Cymru yn gredyd i’r genedl,” meddai AC Gorllewin De Cymru.
“Mae angen dechrau cynllunio yn awr er mwyn ffitio i mewn ag amserlen y tîm, a byddai’n golled cyfle enbyd pe na bai’r llywodraeth yn gweithredu ac yn dangos eu cefnogaeth i dîm Cymru.
“Rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn caniatáu i baratoadau ddechrau yn awr.”
Stori: Iolo Cheung