Maes awyr Sharm el-Sheikh
Mae bylchau difrifol ym mesurau diogelwch maes awyr Sharm el-Sheikh, yn ôl nifer o swyddogion fu’n gweithio yno.
Mae’r diffygion yn cynnwys dyfais sganio nad yw’n gweithio’n aml, a diffyg ymdrech i chwilio bagiau.
Daeth diogelwch y maes awyr o dan y chwyddwydr wedi i 224 o bobol gael eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad ar Hydref 31, 23 o funudau’n unig wedi i’r awyren Rwsiaidd adael y ddaear.
Mae lle i gredu bod bom wedi cael ei osod ar yr awyren, ac mae nifer o deithiau wedi cael eu hatal tan bod union achos y gwrthdrawiad wedi cael ei ddarganfod.
Dywedodd y swyddogion diogelwch fod diffygion wedi cael eu nodi mewn adroddiadau ers nifer o flynyddoedd, ond bod y pryderon wedi cael eu hanwybyddu.
Mae honiadau hefyd bod yr heddlu wedi cael eu llwgrwobrwyo tra’n cynnal ymchwiliadau o fagiau teithwyr.
Dydy awdurdodau’r Aifft ddim wedi ymateb i’r honiadau, ond fe ddywedodd arlywydd y wlad fod swyddogion o Brydain wedi cynnal ymchwiliad ychydig fisoedd yn ôl.