Sharm el-Sheikh, ar lan y Môr Coch yn yr Aifft (llun: PA)
Mae disgwyl y bydd naw awyren wedi cludo cannoedd o deithwyr yn ôl o’r Aifft i Brydain erbyn heno.

Mae’r gyntaf ohonynt, un o awyrennau Thomas Cook, eisoes wedi gadael maes awyr Sharm el-Sheik gyda 220 o deithwyr ar ei bwrdd. Mae disgwyl iddi lanio yn Gatwick heno.

Mae Monarch yn hedfan dwy awyren, un i Fryste a’r llall i Fanceinion, a bydd dwy o awyrennau Thomson hefyd yn cludo teithwyr yn ôl i Fanceinion.

Mae disgwyl i ail awyren gan Thomas Cook adael am Fanceinion, ac mae British Airways wedi anfon awyren wag i Sharm el-Sheikh y bore yma i gludo teithwyr yn ôl i Gatwick heno.

Mae EasyJet hefyd yn gobeithio cludo 445 o deithwyr mewn dwy awyren i faes awyr Luton erbyn heno.

2,500 yn dal ar ôl

Roedd dros 2,500 o bobl o Brydain yn dal yn Sharm el-Sheikh yn yr Aifft y bore yma ar ôl i 21 o awyrennau gael eu canslo ddoe.

Dywedodd llysgennad Prydain yn yr Aifft, John Casson, ei fod yn disgwyl y bydd tua 1,500 ohonyn nhw wedi gallu gadael heddiw.

Ar ôl trafod gyda chyfarwyddwr maes awyr Sharm el-Sheik, dywedodd John Casson eu bod wedi cytuno ar y mesurau diogelwch sy’n angenrheidiol.

Wrth ymateb i feirniadaeth fod y teithwyr wedi gorfod aros yn hir am gael mynd adref, dywedodd mai sicrhau eu diogelwch oedd y peth pwysicaf.

“Mae gennym bellach fesurau ar waith sy’n ein galluogi ni i ddweud ei bod hi’n saff i hedfan adref,” meddai.

“Dyna’r peth pwysicaf, dyma’r flaenoriaeth bwysicaf i’r Llywodraeth, a byddwn yn sicrhau hynny mewn ffordd sydd mor gyfleus a chyflym ag sy’n bosibl i bobl.”

Sŵn ffrwydrad

Roedd llywodraeth Prydain wedi dileu teithiau awyr i’r Aifft ddydd Mercher ar ôl i awyren Airbus 321 o Rwsia ddod i lawr ddydd Sadwrn diwethaf gan ladd pawb o’r 224 ar ei bwrdd.

Mae ymchwilwyr i achos y ddamwain yn fwyfwy sicr bellach mai bom ar yr awyren a achosodd y trychineb.

Daw adroddiadau bod y blychau du o’r awyren yn dangos sŵn ffrwydrad sydyn yn ystod y daith.

Dywed Ysgrifennydd Trafnidiaeth Prydain, Patrick McLoughlin, fod ‘tebygolrwydd uchel’ mai dyfais ffrwydrol oedd yn gyfrifol ond ei fod yn dal i ddsgwyl am gadarnhad terfynol.