Mae cyrch awyr gan Israel wedi dinistro swyddfeydd amrywiol asiantaethau newyddion rhyngwladol yn ninas Gaza.

Dyma’r ymgais ddiweddaraf gan fyddin Israel i dawelu newyddiadurwyr yn y diriogaeth, wrth i’w cyrchoedd barhau yn erbyn y gwrthryfelwyr Hamas.

Cafodd yr adeilad 12-llawr ei ffrwydro i’r llawr lai nag awr ar ôl i filwyr orchymyn pobl i adael yr adeilad. Ymysg yr asianaethau newyddion yno roedd Associated Press ac Al-Jazeera.

Digwyddodd yr ymosodiad o fewn oriau i gyrch tebyg gan yr Israeliaid ladd o leiaf 10 o Balestiniaid mewn gwersyll i ffoaduriaid yn y ddinas – yr ymosodiad gwaethaf yn y gwrthdaro presennol.

Ers nos Lun, mae Hamas wedi tanio cannoedd o rocedi ar Israel, sydd wedi taro’n ôl yn ddidrugaredd gydag ymosodiadau o’r awyr ar lain Gaza.

Mae o leiaf 126 o bobl wedi cael eu lladd yno’r wythnos yma, gan gynnwys 31 o blant a 20 o ferched. Mae saith o bobl wedi eu ladd yn Israel, gan gynnwys bachgen chwech oed a milwr.