Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod beth oedd wedi achosi damwain awyren ym mhenrhyn Sinai yn Yr Aifft, gan ladd 224 o bobol.

Digwyddodd y ddamwain 23 o funudau ar ôl i’r awyren Airbus-A3210-200 ddechrau ar ei thaith o Sharm el-Sheikh i St Petersburg yn Rwsia.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb, ac mae nifer o gwmnïau wedi rhoi’r gorau i deithio yn yr ardal dros dro am resymau diogelwch.

Ond mae British Airways wedi dweud nad yw eu teithiau i’r wlad wedi cael eu canslo na’u gohirio.

Mae llywodraeth Rwsia wedi wfftio honiadau’r Wladwriaeth Islamaidd.

Roedd bron bob un o’r teithwyr ar yr awyren yn dod o Rwsia, ac roedd 25 o blant ymhlith y rhai fu farw.

Mae 129 o gyrff wedi cael eu darganfod.

Mae gwraig y peilot wedi dweud bod ei gŵr wedi cwyno wrthi am gyflwr yr awyren cyn teithio.

Cafodd gweddillion yr awyren eu darganfod yn ardal Hassana, 44 o filltiroedd i ffwrdd o ddinas el-Arish.

Fe fu brwydrau ffyrnig rhwng lluoedd lleol ac eithafwyr Islamaidd.