Fe allai hacwyr fod wedi gallu cael mynediad at fanylion banc hyd at 2,000 o gwsmeriaid cwmni ffonau symudol Vodafone meddai’r cwmni.

Mae Vodafone wedi cadarnhau heddiw fod 1,827 o gyfrifon wedi’u hacio, ac y gallai hynny olygu fod yr hacwyr wedi gweld enwau, rhifau, rhifau didoli a phedwar rhif ola’ cyfrifon banc.

“Troseddwyr oedd y tu ol i’r digwyddiad hwn, yn defnyddio cyfeiriadau e-bost a chyfrineiriau yr oedden nhw wedi’u cael nhw o ffynhonnell y tu allan i Vodafone,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

“Chawson nhw ddim y wybodaeth hynny o sustemau Vodafone, wrth geisio cael at fanylion banc.”