Mae’r gwaith o chwilio am awyren a anfonodd neges gymorth oddi ar arfordir Ynys Manaw, wedi dod i ben.

Mae gwasanaeth Gwylwyr y Glannau wedi cadarnhau fod “chwilio trylwyr” wedi bod wedi i RAF Kinloss yn yr Alban gyhoeddi fod neges argyfwng wedi’i chofnodi gan yr awyren. Ond, wedi i’r bad achub dreulio pedair awr yn chwilio, fe ddaeth y chwilio i ben heb ganfod dim.

Fe anfonwyd dau fad achub – y naill o Newcastle yng Ngogledd Iwerddon, a’r llall o Port St Mary yn Ynys Manaw, ynghyd â dau dîm o wylwyr y glannau a hofrennydd gwylwyr y glannau yn Iwerddon.

Roedd llongau masnachol yn ardal Ynys Manaw wedi derbyn cais i fod ar eu gwyliadwraeth hefyd rhag ofn iddyn nhw weld arwydd o’r awyren.