Mae’r awdurdau yn Zimbabwe wedi gwrthod awgrymiadau fod iechyd arlywydd y wlad, Robert Mugabe, yn fregus – a hynny wedi iddo faglu’n gyhoeddus.

Yn hytrach, meddai llefarydd ar ran yr arlywydd 91 oed, does dim achos poeni o gwbwl wedi’r “digwyddiad bychan bach” wrth geisio dringo ramp. Mae’r arlywydd yn iach iawn, meddai wedyn.

Ond mae fideos wedi’u cyhoeddi ar-lein yn dangos Robert Mugabe yn baglu wrth geisio mynd i ben llwyfan Cynhadledd India-Affrica ddydd Mercher yr wythnos hon, ac mae prif weinidog India, Narendra Modi, yn estyn llaw er mwyn ei sadio.

Yn gynharach eleni, mi faglodd Robert Mugabe a syrthio ym Maes Awyr Rhyngwladol Harare yn Zimbabwe. Ym mis Medi eleni, fe ddarllennodd yr araith anghywir yn y senedd.