Mae cyhoeddwr llyfrau seciwlar wedi cael ei ladd mewn ymosodiad ym mhrifddinas Bangladesh. Cafodd tri o bobol eraill eu hanafu yn ystod yr ymosodiad.

Fe ddaw marw Faisal Arefin Deepan yn Dhaka wrth i nifer bryderu bod Islam radicalaidd ar gynnydd yn y wlad. Mae pedwar anffyddiwr oedd yn cyhoeddi blogiau hefyd wedi’u llofruddio yn ystod eleni.

Roedd dau gyhoeddwr ymhlith y rhai a gafodd eu targedu gan yr ymosodiad diweddara’ wedi cyhoddi gwaith y blogiwr o Americanwr o dras Bangladeshi, Avijit Roy – fe gafodd yntau ei ladd ar gampws Prifysgol Dhaka ym mis Chwefror eleni.

Fe gafwyd corff Faisal Arefin Deepan yn ei swyddfa yn dilyn yr ymosodiad heddiw. Roedd yn gweithio i gwmni cyhoeddi Jagriti Prokashoni. Yn gynharach yn y dydd, fe gafodd y cyhoeddwr Ahmed Rahim Tutul a dau awdur eu saethu a’u trywanu gan dri dyn yn swyddfa cwmni cyhoeddi Shudhdhoswar.

Mae enwau’r ddau awdur wedi’u cyhoeddi, sef Ranadeep Basu a Tareque Rahim.

Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau diweddara’ hyn. Fe hawliodd y grwp Islamaidd, Ansarullah Bangla Team, gyfrifoldeb am ladd y blogwyr.