Mae pantomeim newydd Martyn Geraint ar gyfer y Nadolig eleni wedi’i ysgrifennu fel teyrnged i’r ymgyrchydd iaith o’r 1960au, Eileen Beasley, a fu’n athrawes arno yn Ysgol Rhydfelen.
Am y tro cyntaf mewn 12 mlynedd o greu a theithio pantomeimiau Cymraeg, bydd y diddanwr plant poblogaidd o Bontypridd yn troi’i gefn ar straeon cyfarwydd y panto ac yn creu sioe newydd sbon wedi’i hysbrydoli gan yr hwiangerdd Gymraeg adnabyddus i blant – ‘Dacw Mam yn Dwad’.
“Ar ôl siarad gyda nifer o bobl ar hyd a lled Cymru, dw i wedi newid pethe rhywfaint eleni, a chreu sioe sy’n llawer fwy Cymreig o ran naws a neges, a sy’ ddim yn ddibynnol ar fachgen ifanc sy’n gorfod cael lot o arian cyn gallu priodi’r dywysoges hardd,” meddai Martyn Geraint.
Ac mae cymeriad y fam yn y panto wedi’i seilio ar Eileen Beasley.
“Mae stori ‘Dacw Mam yn Dwad’ yn seiliedig ar y fam, sy’n gwrthod talu rhent, am fod y llythyr rhent yn uniaith Saesneg – fy nheyrged bach i falle, i Eileen Beasley oedd yn athrawes arna’i yn Ysgol Rhydfelen,” meddai Martyn Geraint eto.
“Mae yna straeon mor bositif am dŵf y Gymraeg ac ysgolion Cymraeg, ac eto mae cymaint o’r plant yn yr ysgolion yna’n siarad Saesneg a’u gilydd yn aml. Felly, yn gymysg â’r canu, dawnsio, pypedwaith, a rhialtwch arferol y panto, ma’ ‘na negeseuon bach cynnil fydd gobeithio yn annog plant i ddefnyddio mwy o’r iaith Gymraeg ac i werthfawrogi eu treftadaeth.”
Y criw
Yn ymuno gyda Martyn eto eleni fydd Gwion Aled o Lanrwst, ac yn troedio llwyfan y pantomeim am y tro cyntaf, fydd Gareth Elis o San Clêr, Anni Dafydd o Lanbedr Pont Steffan, a Heledd Gwynn sy’n wreiddiol o Grymych. Fe fydd yr actor a’r cyfarwyddwr theatre, Gareth John Bale yn cyfarwyddo’r pantomeim.
Bydd pob ysgol fydd yn mynychu’r panto eleni, yn hytrach na derbyn rhaglen, yn cael CD o ganeuon ‘Dacw Mam yn Dwad’, sy’n cynnwys cyfres o ganeuon newydd fydd yn gymorth i blant ddysgu tablau 2, 3 a 4.
Bydd taith ‘Dacw Mam yn Dwad’ cychwyn yn Theatr y Congress, Cwmbrân ar Dachwedd 17, ac yn gorffen, yn dilyn ymweliad â 17 o wahanol theatrau a neuaddau led led y wlad, yn Neuadd Pontyberem ar Rhagfyr 18.