Karl Andree
Bydd Prydeiniwr  74 oed, a gafodd ei fygwth â chwipiadau yn Saudi Arabia ar ôl torri rheolau alcohol llym y wlad, yn cael ei ryddhau o’r carchar o fewn wythnos, meddai Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig heddiw.

Roedd  Karl Andree, 74, wedi bod yn y carchar ers iddo gael ei arestio yn Jeddah ym mis Awst y llynedd ar ôl cael ei ddal gyda gwin cartref yn ei feddiant.

Ond yn ystod ymweliad a Saudi Arabia, fe gadarnhaodd Philip Hammond y byddai Karl Andree yn cael ei ryddhau o fewn wythnos, ac yn cael bod gyda’i deulu eto.

Dywedodd ei fab, Simon Andree, ei fod yn “newyddion gwych,  os yw’r hyn mae Saudi Arabia a’r Llywodraeth yn ei ddweud yn wir.”

Ychwanegodd Simon Andree nad oedd wedi cael gwybod o flaen llaw y byddai ei dad yn cael ei ryddhau.

“Mae hwn yn ganlyniad da, ac rwy’n ddiolchgar i’r gweinidog Al-Jubeir a phawb arall, yn enwedig Ei Uchelder Brenhinol y Brenin, am sicrhau ein bod ni’n cael canlyniad da,” meddai Philip Hammond.

Er hyn, mae grwpiau hawliau dynol wedi dweud y dylai Philip Hammond ddefnyddio’i ymweliad i weithredu ar amrywiaeth o achosion, gan gynnwys Ali al-Nimr, sy’n wynebu cael ei groeshoelio a’i ddienyddio, a’r blogiwr Raif Badwai, sydd wedi cael ei ddedfrydu i  1,000 o chwipiadau.

Llysgennad Saudi Arabia yn corddi’r dyfroedd

Daw ei ymweliad ddyddiau yn unig ar ôl i lysgennad Saudi Arabia i’r Deyrnas Unedig rybuddio dros “newid brawychus” yn y berthynas rhwng y ddwy wlad, er bod swyddogion Llywodraeth y DU wedi dweud bod y daith wedi cael ei threfnu “ers amser hir”.

Yn ogystal ag achos Karl Andree, mae cysylltiadau rhwng y Deyrnas Unedig a Saudi Arabia wedi dod dan bwysau yn dilyn y penderfyniad i ganslo cytundeb i hyfforddi staff carchardai yn Saudi Arabia.

Fe wnaeth y Tywysog Mohammed bin Nawaf bin Abdulaziz sôn yn bennaf am ganslo’r cytundeb, gan ddweud bod “newid brawychus yn y ffordd y mae Prydain yn trafod Saudi Arabia.”

Mewn erthygl i’r Daily Telegraph, fe rybuddiodd na ddylai unrhyw un “bregethu” ar y frenhiniaeth gyfoethog a galwodd ar Brydain i barchu ei system lem o gyfraith Sharia.

Yn ystod ei daith, bydd Philip Hammond yn cwrdd ag arweinwyr Saudi Arabia, Qatar a’r Emiradau Arabaidd Unedig i drafod diogelwch rhanbarthol a’r argyfwng yn Syria, cyn trafodaethau rhyngwladol yn Fiena ddydd Gwener.