Madeleine McCann
Mae nifer y ditectifs sy’n ymchwilio i ddiflaniad Madeleine McCann wedi gostwng, cyhoeddodd Scotland Yard.

Ar un adeg roedd 29 o dditectifs yn rhan o’r tîm fu’n ymchwilio i ddiflaniad y ferch 3 oed yn Praia da Luz yn yr Algarve yn 2007, ond pedwar yn unig fydd yn parhau i ymchwilio i’r achos bellach.

Mae’r Heddlu Metropolitan wedi pwysleisio nad yw’r ymchwiliad wedi dod i ben a’u bod yn dal i ganolbwyntio ar wybodaeth sydd wedi dod i law.

Fe ddiflannodd Madeleine McCann o safle gwyliau’r teulu ar 3 Mai 2007 tra roedd ei rhieni yn cael cinio mewn bwyty gerllaw gyda ffrindiau.