Ni ddylai cyffur i drin cleifion â chanser y pancreas gael ei gynnig gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ôl corff NICE.

Cafodd y cyffur Abraxane ei gymeradwyo fis diwethaf gan y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, ac roedd y cyffur yn cael ei gynnig gan y Gwasanaeth Iechyd.

Ond mewn canllawiau newydd, dywedodd y Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth Iechyd a Gofal nad oes modd cyfiawnhau cost y cyffur.

Mae hynny’n golygu na fydd yn cael ei gynnig bellach gan y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, ac mae’r cyffur wedi cael ei dynnu oddi ar restr y Gronfa Cyffuriau Canser.

Ond fe fydd yn cael ei gynnig yng Nghymru am y tro.

Mae elusen Pancreatic Cancer UK wedi beirniadu’r penderfyniad yn Lloegr, gan ddweud bod cannoedd o gleifion yn cael eu hamddifadu o driniaeth a allai ymestyn eu bywydau.

Maen nhw wedi addo brwydro yn erbyn y penderfyniad yn Lloegr, ac wedi mynegi pryder am gleifion yng ngwledydd eraill y DU.

Dim ond 4% o gleifion sy’n byw am hyd at bum mlynedd ar ôl diagnosis.