Mae dyn 32 oed wedi cael ei arestio yn Sain Tathan ar amheuaeth o ymosodiad difrifol yn Y Barri.

Digwyddodd yr ymosodiad mewn bloc o fflatiau yn Heol Ramsey am oddeutu 4 o’r gloch fore Mawrth.

Mae dyn yn ei 60au mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ar ôl dioddef anafiadau i’w wyneb a’i ben.

Mae’r dyn sydd wedi’i arestio’n cael ei holi yn y ddalfa.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad.

Dylai unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus adeg yr ymosodiad gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.