Fe fydd Llywodraeth Prydain yn ad-dalu costau ynni’r diwydiant dur a’r diwydiannau ynni eraill pan fydd yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud penderfyniad ar gymorth.

Dyna neges Prif Weinidog Prydain, David Cameron ar ôl dadl yn San Steffan y bore ma.

Mae e wedi addo ad-dalu’r diwydiant ar unwaith a than 2020.

Roedd cynrychiolwyr o’r diwydiant yn San Steffan ar gyfer y ddadl.

Mae nifer o gwmnïau gan gynnwys Tata Steel ac SSI wedi cyhoeddi bod miloedd o swyddi’n cael eu colli, ac maen nhw’n rhoi’r bai am hynny ar fewnforion rhad a chostau ynni ac allyriadau uchel.

Yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog, dywedodd Cameron: “O ran costau ynni, gallaf gyhoeddi heddiw y byddwn yn ad-dalu’r diwydiannau ynni yn llawn am gostau polisi maen nhw’n eu hwynebu, unwaith y cawn ni ddyfarniad ar gymorth gwladol gan Frwsel.”

Ychwanegodd fod y cynnig yn fwy hael na’r hyn sydd eisoes wedi cael ei gynnig gan y Blaid Lafur.

Mae Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid yn lobïo swyddogion yr Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cymryd camau ar draws Ewrop i fynd i’r afael â’r argyfwng dur.

Ond mae undeb GMB yn amau ei fod yn ymateb i’r argyfwng gyda “sbin a gweithredoedd PR”.