Paul Flynn AS
Mae Paul Flynn wedi dweud ei bod hi bellach yn ddyletswydd ar y Frenhines i atal David Cameron os yw’r Prif Weinidog yn bwrw ymlaen â chynlluniau i benodi Arglwyddi Ceidwadol newydd.

Yr wythnos hon fe gafodd cynlluniau’r Llywodraeth i gwtogi credydau treth eu gwrthwynebu yn Nhŷ’r Arglwyddi, gan achosi ffrae gyfansoddiadol.

Mae Cameron eisoes wedi bygwth penodi dros 100 o Arglwyddi newydd i’r siambr er mwyn sicrhau bod gan y blaid fwyafrif yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Ond mae’r Canghellor George Osborne hefyd wedi awgrymu y bydd yn ailedrych ar y cynlluniau i wneud toriadau i gredydau treth ac y bydd yn gwneud cyhoeddiad yn Natganiad yr Hydref.

Mae AS Gorllewin Casnewydd Paul Flynn wedi mynnu fodd bynnag y byddai unrhyw ymgais i benodi rhagor o Arglwyddi a “chreu mantais wleidyddol” yn gamddefnydd o bwerau’r Prif Weinidog – gan alw ar y Frenhines i ymyrryd.

‘Camddefnyddio pŵer’

Mewn Cynnig Dydd Cynnar yn San Steffan fe awgrymodd Paul Flynn, sydd yn weriniaethwr amlwg, y byddai ymyrraeth gan y Frenhines yn gyfiawn yn yr achos hwn.

“Mae’r Tŷ hwn yn credu mai prif ddyletswydd Pennaeth y Wladwriaeth yw ymyrryd pan fo’r Prif Weinidog yn gweithredu yn ôl ei fuddiannau ei hun ac yn erbyn buddiannau’r wlad; ac yn ychwanegol i hynny yn credu bod penodi nifer gormodol o Arglwyddi er mwyn creu mantais wleidyddol yn gamddefnydd ddylai gael ei atal gan y frenhines,” meddai cynnig Paul Flynn.

Nid oes gan Dŷ’r Arglwyddi hawl i wrthod deddfau sydd yn cael eu cynnig gan Dŷ’r Cyffredin, ond mae’n gallu gohirio deddfwriaeth a gofyn iddo gael ei ailystyried.

Cafodd pwerau Tŷ’r Arglwyddi eu cwtogi gyda Deddf Seneddol 1911, a hynny ar ôl i aelodau’r siambr wrthod â phasio cyllideb fyddai wedi targedu tirfeddianwyr cyfoethog.

Mae sawl ymgais aflwyddiannus wedi bod ers hynny i ddiwygio’r siambr, a’r newid mwyaf sydd wedi digwydd yw’r ffaith bod y rhan fwyaf o’r Arglwyddi bellach yn cael eu hapwyntio yn hytrach nag etifeddu eu lle.