Mae Tîm Ymgyrch Scorpion Heddlu Gogledd Cymru a swyddogion lleol wedi arestio pedwar person am droseddau difrifol yn ymwneud â gynnau, arfau niweidiol ac ymosodiadau yn Wrecsam.

Fe gafodd tri dyn rhwng 21 a 44 oed, a dynes yn  ei 30au – i gyd o ardal Wrecsam, eu harestio’r bore ‘ma, ac maen nhw’n cael eu cadw mewn gorsaf heddlu leol ar hyn o bryd.

Roedd yr ymgyrch hefyd wedi cynnwys cynnal cyrchoedd mewn tai, ac mae hynny’n parhau ar hyn o bryd.

Mae Ymgyrch Scorpion yr heddlu yn mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol yn yr ardal.

Ymgyrch Scorpion i barhau

“Mae’r camau heddiw o ganlyniad i ymchwiliad cudd-wybodaeth estynedig i berchnogaeth a defnydd gynnau a throseddau treisgar eraill yn y sir,” meddai arweinydd yr ymgyrch, yr Arolygydd Ditectif, Arwyn Jones.

“Bydd Ymgyrch Scorpion yn parhau i arestio (pobl) sy’n ymwneud â throseddau difrifol a chyfundrefnol ac yn targedu’r sawl yn ein cymunedau sy’n achosi’r niwed mwyaf.”

Diolchodd hefyd i’r trigolion lleol am eu ‘cydweithrediad’ a’u ‘hamynedd’ wrth i’r heddlu chwilio “nifer fawr o eiddo”.

Ychwanegodd Arwyn Jones: “Rydym wedi gwneud cynnydd mawr yn lleihau trais yn y rhanbarth a gyda help y gymuned, rwy’n sicr y gallwn barhau i wneud hynny i wneud ein strydoedd yn fwy diogel.”

Yn ôl yr heddlu, mae’r ymchwiliad i grwpiau troseddol difrifol yn parhau ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu’n anhysbys drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.