Gallai arweinwyr gwledydd Ewrop ddod at ei gilydd ddydd Sul i drafod sefyllfa ffoaduriaid ar draws y cyfandir.

Mae pwyllgor gwaith yr Undeb Ewropeaidd yn cynllunio uwchgynhadledd yn y gobaith o wella’r cydweithio rhwng gwledydd Ewrop i fynd i’r afael â’r argyfwng.

Dywedodd llefarydd ar ran llywydd Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd Jean-Claude Juncker fod “angen mwy o lawer o gydweithio, ymgynghori mwy estynedig a gweithredu ar unwaith”.

Mae disgwyl i gynrychiolwyr o Awstria, Bwlgaria, Croatia, Macedonia, Yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, Rwmania, Serbia a Slofenia gael eu gwahodd i’r uwchgynhadledd.

Mae gwahoddiad hefyd i Uwch Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, ynghyd â swyddogion o asiantaeth gwarchod ffiniau a swyddfa loches yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ffoaduriaid o’r Dwyrain Canol ac Affrica’n parhau i geisio cyrraedd Ewrop yn eu miloedd.