Mae pump o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau brawychol.
Cafodd dau ddyn 40 a 36 oed o Sheffield eu harestio’r bore ma ar amheuaeth o baratoi i gyflawni gweithred frawychol.
Cafodd dynes 55 oed a dyn 44 oed o Orllewin Swydd Efrog eu harestio ar amheuaeth o godi arian at weithredoedd brawychol.
Cadarnhaodd yr heddlu fod y troseddau honedig yn ymwneud â Syria.
Mae’r heddlu wrthi’n chwilio pum tŷ yn Sheffield, Batley a Dewsbury tra bod y pedwar yn cael eu holi yn y ddalfa.
Yn y cyfamser, cafodd dyn 23 oed ei arestio gan heddlu gwrth-frawychiaeth yn nwyrain Llundain y bore ma, a hynny ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi neu sefydlu brawychiaeth.