Mae beth bynnag un wedi marw, chwech o bobol ar goll, a 16,000 wedi’u gorfodi i symud o’u tai oherwydd teiffwn sydd wedi taro gogledd-ddwyrain Ynysoedd y Philipinas.

Mae’r fyddin a’r heddlu wedi bod yn gweithio’n galed i symud trigolion gafodd eu dal yn gaeth gan lifogydd mewn pentrefi yn nhaleithiau Aurora a Nueva Ecija.

Yr unig gysur ydi fod y teiffwn i weld wedi arafu tipyn erbyn hyn, gan ei fod wedi bwrw mynyddoedd Sierra Madre, ac mae ardal o bwysedd isel hefyd yn symud dros ogledd y wlad ar hyn o bryd.

Ond ar ei anterth, fe gafodd coed a pheilonau trydan eu llorio gan Deiffwn Koppu, gan adael naw talaith heb drydan. Mae tirlithriadau wedi cau hyd at 25 o ffyrdd a phontydd, tra bod dwsinau o awyrennau yn methu codi o’r meysydd awyr, ac mae nifer o ddinasoedd wedi cau ysgolion.

“Mae hi’n dal yn beryglus yma,” meddai llefarydd ar ran y llywodraeth. “Ddylen ni ddim bod yn rhy esgeulus.”