Mae dyn 36 mlwydd oed wedi’i arestio gan dditectifs sy’n ymchwilio i weithred derfysgol gan weriniaethwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Fe gafodd y dyn ei arestio yn Newry, County Down, fore heddiw, ac fe gafodd adeilad ei archwilio fel rhan o’r cyrch. Mae’r dyn wedi’i gludo i swyddfa heddlu Stryd Musgrave yn ninas Belffast er mwyn cael ei holi.

Dyma’r achos diweddara’ mewn cyfres o arestiadau yn y dyddiau diwetha’, wrth i’r heddlu geisio targedu gweriniaethwyr sy’n ceisio tanseilio’r broses heddwch.

Mae tri o ddynion eraill – 39, 40 a 47 mlwydd oed – yn parhau yn y ddalfa, tra bod dyn 35 mlwydd oed a gafodd ei arestio yng ngorllewin Belffast ddoe wedi’i ryddhau’n ddiamod.