Mae Sbaen yn rhybuddio y gallai diffyg cytundeb ynghylch y ffin â Gibraltar fel rhan o Brexit arwain at oedi i weithwyr, twristiaid a busnesau cyn i’r cyfnod pontio ddod i ben.
Doedd Gibraltar ddim yn rhan o’r cytundeb masnach a gafodd ei gyhoeddi ar Noswyl Nadolig i gydnabod y berthynas fasnachu rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.
Ionawr 1 yw’r terfyn amser ar gyfer cytundeb tros Gibraltar, pan fydd cyfnod pontio sy’n rheoleiddio’r ffin yn dod i ben.
Fe wnaeth Sbaen annog yr Undeb Ewropeaidd i gadw’r trafodaethau ynghylch Gibraltar ar wahân i brif drafodaethau Brexit, sy’n golygu mai yn nwylo Sbaen mae’r sefyllfa.
Yn ôl Arancha Gonzalez Laya, un o weinidogion Llywodraeth Sbaen, gallai oedi fel sydd i’w weld ym mhorthladd Dover ddigwydd yn Sbaen hefyd os na fydd cytundeb ynghylch Gibraltar.
Gibraltar
Trwy gydol y trafodaethau Brexit, mae Sbaen wedi bod yn mynnu cael dweud eu dweud ynghylch dyfodol Gibraltar.
Cafodd yr ynys ei rhoi i Brydain yn 1713, ond mae Sbaen yn ei hawlio o hyd.
Mae mwy na 15,000 o bobol yn byw yn Sbaen ond yn gweithio yn Gibraltar yn cyfrif am ryw 50% o weithlu’r ynys.
Roedd y mwyafrif helaeth o drigolion yr ynys yn gwrthwynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd, gyda 96% yn pledleisio dros aros.
Y gobaith yw na fydd gwiriadau wrth y ffin rhwng Gibraltar a Sbaen fel bod modd i bobol symud yn rhydd.