Mae Michel Gove yn mynnu bod cytundeb masnach Brexit yn dda i bysgotwyr, ar ôl i’r diwydiant gyhuddo Boris Johnson, prif weinidog Prydain, o’u bradychu.

Yn ôl Gove, fydd pysgotwyr ddim ar eu colled yn sgil y cytundeb masnach rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn trafodaethau Brexit.

Er gwaetha’r pryderon fod cwotâu sydd wedi’u cytuno’n is na chytundeb blaenorol, mae Gove yn mynnu y bydd pysgotwyr yn dal i gael cyfran uwch o’r pysgod sy’n cael eu dal yn nyfroedd gwledydd Prydain, ac y gallai’r cyfanswm gynyddu eto ymhen rhai blynyddoedd.

Polisi pysgodfeydd cyffredin

Yn ôl Michael Gove, mae pysgotwyr “mewn sefyllfa gryfach” nag yr oedden nhw o fewn yr Undeb Ewropeaidd a’r polisi pysgodfeydd cyffredin.

“Yn y polisi pysgodfeydd cyffredin, roedden ni ond yn gallu cael mynediad i ryw 50% o’r pysgod yn ein dyfroedd,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.

“Mae’n wir ein bod ni bellach yn cael cynnydd sylweddol yn y nifer hwnnw felly erbyn 2026, byddwn ni’n cael rhyw ddau draean o’r pysgod yn ein dyfroedd ni.

“Mae’r broses raddol hon yn rhoi cyfle i ni gynyddu maint y fflyd, buddsoddi yn ein cymunedau arfordirol ac, wrth gwrs, maes o law fe fyddwn ni’n cael y cyfle hwnnw i gynyddu’r cwota hwnnw ymhellach.”

Pysgotwyr ar eu colled

Ond yn ôl Andrew Locker, cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Pysgotwyr, fe fydd pysgotwyr “ar eu colled” o ganlyniad i Brexit.

“Dw i’n grac, yn siomedig ac wedi fy mradychu,” meddai.

“Fe wnaeth Boris Johnson addo i ni’r hawliau i’r holl bysgod sy’n nofio yn ein parth economaidd unigryw ac rydym wedi cael cyfran o hynny yn unig.

“Rydym yn llwyr ar ein colled.

“Pan oedden ni yn yr Undeb Ewropeaidd, roedden ni’n arfer masnachu pysgod gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Roedden ni’n arfer cyfnewid pethau nad oedden ni’n eu defnyddio â physgod nad oedden nhw’n eu defnyddio ac roedd hynny’n ein galluogi ni i lunio cynllun pysgota blynyddol.

“Yr hyn sydd gennym nawr yw cyfran o’r hyn a gafodd ei addo i ni drwy Brexit.

“Rydyn ni wir yn mynd i’w chael hi’n anodd eleni.

“Pan wnaeth Boris Johnson a’i lywodraeth addo Brexit i’r pysgotwyr, wnaeth e addo na fyddai’r un ohonom ar ein colled.

“Mae nifer sylweddol o bysgotwyr – yn deuluoedd bach ac yn gymunedau bach – sydd yn llwyr ar eu colled o ganlyniad i’r cytundeb hwn.”