Mae’r person cyntaf oedd wedi tynnu sylw’r byd at y coronafeirws wedi cael ei charcharu gan lys yn Tsieina.

Fe fu’r gyn-gyfreithwraig Zhang Zhan yn adrodd am wreiddiau’r feirws cyn iddo ledu ar draws y byd.

Mae hi wedi’i charcharu am bedair blynedd am “greu trafferth”, ar ôl wynebu cyhuddiadau o ledaenu gwybodaeth “ffug”, cynnal cyfweliadau â’r wasg a gweithredu yn erbyn y drefn gyhoeddus, gan fanteisio ar yr ymlediad.

Dydy ei chyfreithiwr hithau ddim wedi datgelu rhagor o wybodaeth, sy’n awgrymu bod y llys wedi cyhoeddi gorchymyn i’w chadw’n dawel.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd hi’n apelio yn erbyn y ddedfryd.

Cefndir

Teithiodd Zhang Zhan i Wuhan ym mis Chwefror, gan bostio negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch dechrau ymlediad y coronafeirws.

Mae lle i gredu bod gwreiddiau’r feirws yn y ddinas ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.

Cafodd ei harestio ym mis Mai wrth i’r wlad gyflwyno cyfres o fesurau i fynd i’r afael â’r ymlediad ac i warchod y llywodraeth rhag cael eu beirniadu yn sgil eu hymateb i’r feirws.

Yn ôl adroddiadau, roedd hi’n gwrthod bwyta yn y ddalfa, gan orfodi’r awdurodau i’w bwydo drwy rym.

Mae Tsieina yn cael eu cyhuddo o gelu’r feirws ar ddechrau’r ymlediad ac o gelu gwybodaeth am y feirws, ond maen nhw’n gwadu’r cyhuddiadau gan fynnu iddyn nhw weithredu’n gyflym.

Mae Plaid Gomiwnyddol Tsieina yn rheoli’r cyfryngau’n llym ac yn ceisio atal gwybodaeth ddinistriol rhag cael ei chyhoeddi heb eu caniatâd.

Ar ddechrau’r ymlediad, cafodd nifer o feddygon yn Wuhan eu ceryddu am “ledaenu sïon” am y feirws ar ôl rhoi gwybod i’w ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bu farw un o’r meddygon mwyaf blaenllaw, Li Wenliang, yn ddiweddarach o ganlyniad i’r feirws.