Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew yn y gogledd.

Mae disgwyl i siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint, Gwynedd a Wrecsam weld y tywydd gwaethaf ond mae’r rhybudd mewn grym ledled y wlad.

Y gred yw y gallai hyd at 30mm (1.2 modfedd) o eira gwympo rhwng 3 o’r gloch prynhawn ddoe (dydd Sul, Rhagfyr 27) a 10 o’r gloch fore heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 28).

Gallai hyd at 100mm (4 modfedd) gwympo ar diroedd uchel.

Daw’r rhybudd ddiwrnod yn unig wedi gwyntoedd cryfion o hyd at 80m.y.a. mewn rhai ardaloedd, gyda hyd at 1,700 o gartrefi’n colli eu cyflenwadau trydan.

Mae rhybudd i deithwyr fod yn ofalus ar y ffyrdd oherwydd rhew ac i gerddwyr fod yn wyliadwrus hefyd oherwydd rhew dan droed.

Mae rhybudd am lifogydd mewn grym yn siroedd Powys, Mynwy a Phenfro.