Fe fydd gwrthlif yr A55 yng Nghaergybi’n dechrau heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 28) wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau paratoi ar gyfer hwyluso mynediad i’r porthladdoedd ar drothwy Brexit.

Y bwriad yw lleihau’r anghyfleustra i deithwyr i’r porthladd, y dref a’r gymuned ehangach.

O Ionawr 1, bydd gofyn bod cwmnïau fferi sy’n cynnig teithiau i Iwerddon yn cysylltu gwybodaeth am dollau i’w harchebion.

Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, fydd dim modd iddyn nhw gael mynediad i’r porthladd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, gallai rhwng 40% a 70% o’r cerbydau nwyddau trwm sy’n cyrraedd y porthladdoedd ar ôl y cyfnod pontio gael eu gwrthod am nad oes ganddyn nhw’r dogfennau priodol i deithio.

Pe bai hynny’n digwydd, bydd cerbydau’n cael eu hailgyfeirio i’r gwrthlif ger Cyffordd 4 a bydd rhaid iddyn nhw ailymuno â’r brif ffordd tua’r gorllewin, ydd wedi’i neilltuo ar gyfer cerbydau nwyddau trwm.

Byddan nhw naill ai’n cael eu cyfeirio i safle arall neu’n cael eu cadw ar yr A55 er mwyn trefnu’r gwaith papur priodol.

Gallai’r broblem gyrraedd ei hanterth ganol mis Ionawr, ond bydd angen gwneud trefniadau priodol erbyn hanner nos ar Ionawr 1.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae angen i ni weithredu’r cynlluniau wrth gefn hyn er mwyn gwneud popeth y gallwn i leihau unrhyw darfu posibl yn y porthladd, cymuned Caergybi a’r ardal ehangach,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

“Rydyn ni wedi wynebu y math yma o sefyllfa o’r blaen, ac mae gennym ddyletswydd i baratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf bosibl.

“Rydyn ni’n disgwyl i’r amser prysuraf ar gyfer Cerbydau Nwyddau Trwm fod tuag at ganol Ionawr, ac mae’n bosibl, ond nid yn bendant, y bydd y diwrnodau cyntaf ym mis Ionawr yn gymharol ddistaw.

“Fodd bynnag, mae’n rhaid inni fod yn barod am unrhyw beth.

“Byddwn yn adolygu ein cynlluniau yn barhaus a chyn gynted ag y daw yn glir nad ydym bellach angen gwrthlif, byddwn yn dod â’r cynllun i ben.

“Rydym wedi bod yn gweithio gyda partneriaid ledled Gogledd Cymru, gan gynnwys Cyngor Ynys Môn, ar y cynlluniau hyn.

“Bydd unrhyw adolygiadau a newidiadau i’r cynlluniau yn cael eu gwneud mewn ymgynghoriad llawn â hwy.

“O’r dechrau rydym wedi bod yn glir y byddai dull gweithredu Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ein perthynas fasnachu yn y dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd yn golygu y perygl o darfu sylweddol yng Nghymru, yn enwedig ar y ffin.”