David cameron yn cwrdd â Jean-Claude Juncker
Fe fydd  David Cameron yn cynnal trafodaethau gyda llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker ynglŷn â’i alwadau i ddiwygio’r Undeb Ewropeaidd.

Fe awgrymodd Jean-Claude Juncker ddoe nad oedd “cynnydd sylweddol” wedi bod yn y trafodaethau, a ddechreuodd ym mis Mehefin.

Wrth awgrymru ei rwystredigaeth gyda’r DU, dywedodd Jean-Claude Juncker wrth y Senedd Ewropeaidd bod rhywfaint o ddatblygiad wedi bod ond bod yn rhaid i’r DU gydweithredu.