John McDonnell
Roedd 21 o Aelodau Seneddol Llafur wedi atal eu pleidlais neithiwr gan roi ergyd i awdurdod Jeremy Corbyn, yn dilyn tro pedol dros bolisi economaidd y blaid.
Roedd canghellor yr wrthblaid John McDonnell wedi annog ASau Llafur i wrthwynebu Siarter Cyfrifoldeb Cyllidebol y Llywodraeth, gan gyfaddef ei “embaras” yn dilyn ei benderfyniad i beidio cefnogi’r rheolau gwariant newydd.
Mae siarter newydd y Canghellor George Osborne yn sicrhau bod arian dros ben yng nghyllideb y Llywodraeth erbyn 2019 a llywodraethau’r dyfodol.
Cafodd y siarter gefnogaeth 320 o ASau, gyda 258 yn pleidleisio yn erbyn, gan roi mwyafrif o 62.
Ymhlith y rhai oedd wedi atal eu pleidlais roedd cyn aelodau o gabinet yr wrthblaid Chris Leslie a Tristram Hunt, un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid, Liz Kendall, ac AS Islwyn Chris Evans.
Dywedodd John McDonnell nad oedd wedi newid ei feddwl am “yr angen i fynd i’r afael a’r diffyg” ond ynglŷn â “thactegau seneddol.”
“Nid yw llymder yn anghenraid economaidd ond dewis economaidd,” meddai.
Fe fyddai rhaglen Llafur i leihau’r diffyg yn fwy teg na rheolau George Osborne meddai.