Y Cwnstabl Dave Phillips
Mae cwest wedi clywed bod plismon o Lannau Mersi wedi marw o ganlyniad i sioc a gwaedu oherwydd anafiadau mewnol.

Cafodd y Cwnstabl Dave Phillips, 34, ei daro gan dryc tra’n ceisio atal y cerbyd rhag ffoi yn dilyn byrgleriaeth ar Hydref 5.

Bu farw yn yr ysbyty’n fuan wedi’r digwyddiad yn Wallasey.

Cafodd y cwest i’w farwolaeth ei agor a’i ohirio yn Lerpwl y bore ma, ac mae ei gorff wedi cael ei ddychwelyd i’w deulu ar gyfer ei angladd.

Doedd neb o’r teulu’n bresennol yn y gwrandawiad yn Llys Crwner Lerpwl y bore ma.

Clywodd y llys fod y plismon wedi derbyn yr anafiadau ar ôl cael ei daro gan y tryc.

Cafodd y cwest ei ohirio tan fod yr achos llys yn cael ei gwblhau.

Mae Clayton Williams, 18, wedi’i gyhuddo o lofruddio’r Cwnstabl Dave Phillips ac o nifer o droseddau eraill yn ymwneud a’r digwyddiad.

Mae Philip Mark Stuart, 30, o Gilgwri, wedi’i gyhuddo o fyrgleriaeth a dwyn cerbyd trwy drais, yn ogystal ag achosi marwolaeth drwy ddamwain.

Bydd y ddau yn ymddangos gerbron llys yn Lerpwl yr wythnos nesaf.