Carwyn Jones
Bu dadl danllyd yn y Senedd y prynhawn ‘ma wrth i’r Prif Weinidog Carwyn Jones amddiffyn ei benderfyniad i ddiswyddo’r Aelod Cynulliad Llafur Jenny Rathbone fel cadeirydd pwyllgor.
Cafodd Jenny Rathbone ei diswyddo fel cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Ewrop ddoe ar ôl iddi feirniadu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd lliniaru’r M4 o gwmpas Casnewydd.
Yn dilyn ei diswyddiad, dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Ganol Caerdydd fod “diwylliant afiach” ar frig Llywodraeth Cymru wrth gynnal trafodaethau.
Mick Antoniw, AC Pontypridd, fydd yn cymryd lle Jenny Rathbone fel cadeirydd y pwyllgor.
‘Niweidiol’
Gofynnodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Beth mae hyn yn ei ddweud am eich diwylliant ac am eich atebolrwydd (os nad yw ACau Llafur yn gallu galw am ddadleuon am bolisïau’r llywodraeth)?”
Atebodd y Prif Weinidog: “Dwi’n meddwl bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi camddeall. Dyw hyn ddim yn bwyllgor y Cynulliad a dyw e ddim yn bodoli i graffu ar weinidogion. Mae cadeirydd (y pwyllgor) wedi’i ymrwymo gan gyfrifoldeb ar y cyd ac mae hynny’n rhywbeth mae’n rhaid i mi ei ystyried.”
Ymatebodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew R T Davies: “Mae gwleidyddion Llafur wedi bod yn siarad am wleidyddiaeth newydd, gwleidyddiaeth fwy caredig, ond mae’r mwgwd yn llithro’n barod.
“Mae gan ACau y meinciau cefn ddyletswydd i graffu ar ddefnydd arian cyhoeddus, nid i lynu at bolisïau’r blaid, ac mae cyfaddefiad Carwyn Jones ei fod yn dewis cadeiryddion pwyllgorau er mwyn sicrhau ‘cyfrifoldeb ar y cyd’ yn hynod o niweidiol.”
Wrth ymateb i sylwadau Carwyn Jones am “gyfrifoldeb ar y cyd” i lynu at bolisïau’r llywodraeth, gofynnodd Simon Thomas o Blaid Cymru: “Pa fonitro gallai ddigwydd os oes rhaid i gadeirydd y pwyllgor gadw at bolisïau’r llywodraeth?”
Taclo tlodi
Ac mewn dadl arall ar daclo tlodi, fe wnaeth Alun Davies, sy’n eistedd ar feinciau cefn Llafur yn y Senedd, feirniadu’r llywodraeth:
“Mae gennym lywodraeth sy’n dweud ei bod am ddileu tlodi ond eto mae’n fodlon gwario £1 biliwn o arian cyhoeddus ar brosiect na fyddai’n cael dim effaith economaidd ar gymunedau tlotaf Cymru,” meddai.
Roedd Nick Ramsay o’r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi cwestiynau am ymrwymiad y llywodraeth i fonitro gwariant cronfeydd Ewrop gan nad oedd y Llywodraeth wedi rhoi gwybod i’r awdurdodau ym Mrwsel bod Jenny Rathbone wedi cael ei diswyddo.
Dywedodd y Prif Weinidog nad oedd hyn yn dweud dim am eu hymrwymiad i fonitro rhaglenni Ewrop.