Mae prosiect newydd yn cael ei lansio heno a fydd yn trafod rôl Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd prosiect Cymru a’r UE yn trafod beth fyddai “Brexit” – os yw Prydain yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm arfaethedig –  yn ei olygu i Gymru.

Mae’r prosiect wedi cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn cynnal trafodaethau “cytbwys a deallus” am y berthynas rhwng Cymru a’r UE cyn i bobl Prydain benderfynu os ydyn nhw am adael neu aros o fewn yr undeb.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan fenter y Cyngor Economaidd ac Ymchwil Gymdeithasol, “Y DU mewn Ewrop sy’n Newid”.

Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan am Gyfraith a Llywodraethiant Ewrop bydd yn cynnal y prosiect.

Mae disgwyl i Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AM annerch y lansiad hefyd.

“Mae perthynas y DU â’r Undeb Ewropeaidd am newid p’un ai yw pleidlais y refferendwm yn un i adael neu aros – mae angen i’r goblygiadau cyfreithiol gael eu deall yn iawn,” meddai Cymrawd y Cyngor Economaidd ac Ymchwil Gymdeithasol , Dr Jo Hunt.

Pedair rhan i’r drafodaeth

Mae’r prosiect wedi cael ei rannu yn bedair rhan, lle fydd y rhan gyntaf yn edrych ar bolisïau sydd wedi cael eu datganoli i Gymru, gan gynnwys amaeth, cronfeydd strwythurol a’r amgylchedd, a beth fyddai effaith gadael Ewrop yn ei chael ar y rhain.

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal dros y flwyddyn nesaf er mwyn “trafod a chodi ymwybyddiaeth o sefyllfa benodol Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd.”

Mae’r ail ran yn cynnwys ymchwilio i rôl y Cynulliad Cenedlaethol o wneud polisïau yn Ewrop, gan fod cyflwyno rôl fwy sylweddol i gyrff datganoledig ym Mhrydain yn ganolog i agenda Llywodraeth Prydain ar ddiwygio’r UE.

Mae trydedd rhan o’r prosiect Cymru a’r UE yn cynnwys parhau â’r fforwm, EU Exchange Wales, a gafodd ei sefydlu yn 2013 er mwyn annog trafodaeth gyson rhwng gwneuthurwyr polisi ac academyddion sydd â diddordeb ac arbenigedd mewn materion yn ymwneud â’r UE.

Cynnal sesiynau â phobl ifanc

Bydd y prosiect newydd hwn hefyd yn cynnal sesiynau â phobl ifanc dros y flwyddyn nesaf i drafod eu cwestiynau am y berthynas rhwng Cymru a’r UE.

“Bydd y 18 mis nesaf yn holl bwysig ar gyfer perthynas y DU a’r Undeb Ewropeaidd a bydd y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn dylanwadu ar ein bywydau i gyd,” meddai Jane Hutt cyn y lansiad.

“Mae hon yn fenter gyffrous ac amserol iawn ac rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r gwaith ymchwil.”

Bydd y lansiad yn dechrau am 6 heno (nos Fercher) yn Ystafelloedd Pwyllgor 1 a 2, Adeilad Morgannwg ym Mhrifysgol Caerdydd.