Er nad oes gynnon ni lais na phleidlais ynddo, does fawr o amheuaeth fod etholiad America heddiw ymhlith yr etholiadau pwysicaf a mwyaf tyngedfennol yn ein hoes.

Pan mae dyfodol democratiaeth mewn gwlad mor fawr a phwerus yn y fantol, mae’n fater o’r pryder mwyaf i’r byd cyfan.

Pan enillodd Donald Trump yn annisgwyl o drwch blewyn yn 2016, gan golli’r ‘bleidlais boblogaidd’, cymharol hawdd oedd meddwl am resymau dros gysuro’n hunain nad oedd pethau cyn waethed â hynny.

‘Efallai nad ydi o mor wallgof nac mor ddrwg ag mae’n ymddangos.’ ‘Efallai nad ydi o ddim mwy celwyddog nac anonest nag unrhyw wleidydd arall.’ ‘Mae’n siŵr fod sefydliadau’r llywodraeth a’r wladwriaeth yn America yn ddigon cryf i wrthsefyll gwallgofddyn yn y Ty Gwyn prun bynnag!’

Bedair blynedd yn ddiweddarach rydan ni’n gwybod yn well, a’i anogaeth agored i eithafwyr treisgar, a’i holl gelwyddau parhaus yn codi pryderon difrifol am ddyfodol democratiaeth.

Beth yw’r rhagolygon?

Mae’r arolygon barn yn awgrymu bod gan Joe Biden a’r Democratiaid le i obeithio. Mae Joe Biden bron yn sicr o ennill mwy o bleidleisiau ledled y wlad na Donald Trump, fel y gwnaeth Hillary Clinton wrth gwrs – ond beth fydd yn digwydd yn y taleithiau ymylol fydd yn cyfrif.

Y coleg etholiadol, lle mae gan bob talaith nifer penodol o gynrychiolwyr ar sail ei phoblogaeth, fydd yn dewis yr arlywydd. Yn bron bob achos, mae ennill talaith o un bleidlais yn rhoi holl gynrychiolwyr y dalaith honno i’r buddugwr, ac mae angen 270 o gynrychiolwyr i ennill y ras. Gallwch ddarllen esboniad manylach yma.

Yr hyn y mae pawb yn ei gofio yw bod yr arolygon barn wedi darogan yn anghywir y tro diwethaf, ac mae ofnau mawr ymhlith y Democratiaid y gall hyn ddigwydd eto.

Ar y llaw arall, mae’n werth nodi fod Joe Biden gryn dipyn pellach ar y blaen yn yr arolygon nag oedd Hilary Clinton yn 2016, ac mai dim ond o drwch blewyn yr enillodd Donald Trump bryd hynny.

Doedd ei lwyddiant annisgwyl bryd hynny ddim yn golygu o angenrheidrwydd ei fod yn athrylith gwleidyddol, ac mae tystiolaeth weddol gadarn ei fod, ers hynny, wedi colli cefnogaeth ymhlith grwpiau penodol, ac ymhlith merched ar draws y wlad.

Er gwaethaf y rhagolygon o achosion llys a all barhau am wythnosau, mae gobaith y gallwn gael syniad da o’r ffordd mae’r gwynt yn chwythu yn oriau mân bore dydd Mercher.

Y taleithiau cynnar

Mae nifer helaeth o’r taleithiau allweddol yn nwyrain y wlad, a’r blychau pleidleisio ynddyn nhw’n cau o tua 7 o’r gloch yn amser y dwyrain.

Gyda phump awr o wahaniaeth rhwng hynny a’n hamser ni, fe fydd yr wybodaeth yn dechrau treiddio drwodd o tua hanner nos ymlaen.

Mae taleithiau New England ac yn y gogledd-ddwyrain yn gyffredinol yn tueddu i fod yn gadarnleoedd i’r Democratiaid. Er na fyddai cynyddu mwyafrifoedd yn y rhain yn helpu dim ar Joe Biden, gallai maint y mwyafrifoedd awgrymu tueddiadau mwy cyffredinol.

Mae’n debyg mai Pennsylvania fydd y dalaith fwyaf allweddol drwy’r holl wlad. Cafodd y dalaith boblog hon, sy’n werth 20 o gynrychiolwyr, ei chipio gan Donald Trump gyda llai nag mwyafrif o lai na 1% y tro diwethaf.

Fodd bynnag, oherwydd pob mathau o gymhlethdodau ynglŷn â chyfrif pleidleisiau, a chydag achosion llys yn gwbl bosibl, chawn ni ddim gwybod canlyniad y dalaith hon ar y noson. Blaenoriaeth bwysicach i’r Democratiaid ar y noson efallai fydd gweld beth fydd eu gobeithion o ennill hebddi.

Wrth symud tua’r de, mae tair talaith benodol i gadw llygad arnyn nhw: Gogledd Carolina, Georgia a Florida. Cafodd y tair talaith eu hennill â mwyafrifoedd cymharol fach gan Trump y tro diwethaf. Gallai colli naill ai Gogledd Carolina neu Georgia fod yn ergyd iddo; byddai colli Florida a’i 29 o gynrychiolwyr yn debygol o fod yn farwol i’w obeithion.

Mae’r rhain yn ddiddorol hefyd yn yr ystyr fod nifer anferthol eisoes wedi pleidleisio ynddyn nhw. Mae cyfanswm y pleidleisiau yn y tair talaith eisoes dros 90% o gyfanswm holl bleidleisiau 2016.

Mae disgwyl y bydd canlyniad terfynol Gogledd Carolina yn barod yn weddol fuan ar ôl i’r blychau gau, ond gall Georgia gymryd ychydig ddyddiau.

Yn Florida hefyd, mae’n debygol y bydd y pleidleisiau cynnar hyn wedi cael eu cyfrif erbyn i’r blychau pleidleisio gau am 00.30 ein hamser ni. Mi fydd angen cymryd gofal wrth eu dehongli – gall fod nifer llawer uwch o Ddemocratiaid nag o Weriniaethwyr wedi pleidleisio, a gall y pleidleisiau ar y dydd eu gwrthbwyso. Ar y llaw arall, gyda chyfran mor uchel eisoes wedi pleidleisio, gall effaith y pleidleisiau ar y diwrnod fod yn gymaint â hynny’n llai.

Cyn gadael y taleithiau dwyreiniol, gallai Ohio yn y gogledd hefyd fod yn ddiddorol. Trump yw’r ffefryn i ennill yma, ond gallai brwydr agos argoeli’n dda ar gyfer taleithiau eraill i Joe Biden. Er na fydd y cyfrif yn cael ei gadarnhau’n derfynol heno, mae’n debygol y cawn syniad bras.

Y Canolbarth

Môr o gadarnleoedd Gweriniaethol – Trumpland go-iawn – sydd gynnon ni wedyn tua chanolbarth y wlad, o Alabama ac Indiana yn y dwyrain draw at Montana ac Utah yn y gorllewin.

Wrth i’r noson fynd yn ei blaen, bydd canlyniadau taleithiau amser y canolbarth – chwe awr ar ein holau ni – yn dechrau ymddangos. Y taleithiau gogleddol o amgylch y Llynnoedd Mawr yw’r rhai allweddol yma.

Mi fydd y Democratiaid yn dal eu gafael ar Illinois, talaith Chicago, ac mae eu gobeithion yn uchel o ail-gipio Wisconsin a Michigan oddi ar Donald Trump. Dyma’r taleithiau mwyaf ymylol i gael eu cipio ganddo yn 2016 a byddai methu eu hadennill yn ergyd difrifol i Joe Biden. Dylai canlyniad Wisconsin gael ei gyhoeddi heno, ond gall gymryd rhai dyddiau cyn y bydd Michigan yn barod.

Cyn disgwyl am ganlyniadau taleithiau pellach i’r gorllewin, mae am fod yn werth edrych ar Texas. Dyma ail dalaith fwyaf poblog y wlad, a chadarnle i’r Gweriniaethwyr ar hyd y blynyddoedd, er bod proffil oedran ac ethnig y dalaith yn ei gwneud yn fwy ffafriol nag y bu i’r Democratiaid.

Yn Texas, mae mwy eisoes wedi pleidleisio nag a wnaeth yn 2016, ac felly mae’n debygol y cawn syniad o’r canlyniad, os nad y canlyniad ei hun, yn weddol fuan. Mae’r arolygon barn yn gytûn mai Donald Trump yw’r ffefryn, er y gallai fod yn frwydr agos. Pe digwyddai Joe Biden gipio Texas a’i 38 o gynrychiolwyr, nid dim ond curo Donald Trump y byddai yn ei wneud ond sicrhau un o’r buddugoliaethau mwyaf llethol yn hanes y wlad. Mewn sefyllfa o’r fath gallwn freuddwydio am weld Donald Trump a’i holl deulu’n dianc yn ddisymwth o’r Ty Gwyn mewn hofrennydd…!

Tua’r gorllewin

Mae gobeithion Joe Biden o gipio Arizona, awr ymhellach i’r gorllewin, yn fwy realistig, ac mae hwn hefyd yn ganlyniad y dylem ei wybod ar y noson. Fe fydd y Democratiaid yn cadw llygad gofalus ar Nevada hefyd, talaith y gwnaethon nhw ei hennill o fwyafrif bach y tro diwethaf.

Dim ond taleithiau’r gorllewin pell fydd ar ôl wedyn, a hyd yn oed os daw hunllef waethaf y Democratiaid yn wir, fe fydd California, Oregon a Washington yn ddiogel yn eu gafael. Efallai mai’r unig ateb i bleidleiswyr rhyddfrydig California mewn hunllef o’r fath fyddai torri’n rhydd a chreu gwlad annibynnol ar lannau’r Môr Tawel…!