Mae Dug Caergrawnt wedi derbyn beirniadaeth am gadw ei ddiagnosis Covid-19 yn gyfrinachol.
Daeth i’r amlwg ddechrau’r wythnos fod y Tywysog William wedi dal yr haint fis Ebrill.
Yn ôl adroddiadau cadwodd y Tywysog ei ddiagnosis yn breifat er mwyn osgoi “dychryn y genedl”.
Yn gynharach eleni cafodd y Tywysog Charles hefyd ei heintio â’r coronafeirws.
“Cam yn ôl” o ran tryloywder
Disgrifiodd Joe Little, golygydd cylchgrawn Majesty, fod y penderfyniad i gadw’r canlyniad yn gyfrinach ym mis Ebrill yn “gam yn ôl” o ran tryloywder.
“Byddai wedi bod yn synhwyrol unwaith yr oedd wedi gwella i ddweud ei fod wedi cael yr haint a’i fod yn iawn.
“Gallem fod wedi cael gwybod hyn ddiwedd mis Ebrill yn hytrach nag ym mis Tachwedd.
“Mae’n anochel bod y gwir yn mynd i ddod allan yn y pen draw.
“Mae’r cyfan yn ymwneud â thryloywder y dyddiau hyn ac mae hwn yn gam yn ôl.”
“Rhyfedd iawn”
Disgrifiodd yr awdur materion brenhinol, Penny Junor, y penderfyniad i beidio â gwneud diagnosis William yn gyhoeddus fel un “rhyfedd iawn”, gan ddweud ei fod yn mynd yn erbyn cynsail.
“Roedd y Tywysog Charles yn gallu siarad â phobl a oedd hefyd wedi cael y feirws,” meddai.
“Yn hytrach na chael ei lapio mewn gwlân cotwm cafodd y byd wybod ei fod ef wedi dioddef o’r feirws.
“Ac rwy’n credu y gallai fod wedi bod yn ddefnyddiol pe byddem wedi cael gwybod am William hefyd.”
Gwrthododd Palas Kensington ymateb i’r adroddiadau.