Mae trydydd person wedi marw yn dilyn achos o saethu yn Fienna sy’n cael ei drin fel ymosodiad brawychol.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd cymhelliant Islamyddol i’r digwyddiad sydd wedi arwain at farwolaeth dau ddyn a dynes.

Cafodd yr ymosodwr honedig ei saethu’n farw gan yr heddlu, sy’n dweud ei fod e’n cefnogi Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.

Mae’r awdurdodau’n ceisio darganfod a oedd mwy nag un person yn gyfrifol, gan gredu y gallai fod rhagor o bobol wedi ffoi, ac maen nhw’n rhybuddio trigolion prifddinas Awstria i aros yn eu cartrefi am y tro.

Cafodd 15 o bobol eu hanafu yn ystod y digwyddiad yng nghanol y ddinas, ac roedd plismon yn eu plith.

Roedd pobol allan yn yfed a bwyta cyn dechrau’r cyfnod clo pan ddigwyddodd yr ymosodiad ger synagog.

Mae’r fyddin yn goruchwylio’r ddinas ar hyn o bryd wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad, ac mae’r Almaen a Hwngari wedi cynnig anfon plismyn i gynorthwyo’r heddlu.