Mae’r Arlywydd Donald Trump a’i wrthwynebydd Joe Biden wedi bod yn ymgyrchu am y tro olaf cyn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Tra bo’r arlywydd yn dal i fynnu bod y canlyniad wedi cael ei drefnu ymlaen llaw, mae ei wrthwynebydd wedi bod yn canolbwyntio ar record yr arlywydd wrth fynd i’r afael â’r coronafeirws.

Mae’r ddau wedi bod yn canolbwyntio dros y dyddiau diwethaf ar daleithiau lle gallai’r canlyniad fynd y naill ffordd neu’r llall.

Mae’r coronafeirws wedi arwain at farwolaethau 230,000 o bobol yn y wlad sy’n wynebu’r argyfwng economaidd ers y Dirwasgiad Mawr, ac mae barn pobol wedi’i hollti wrth drafod materion yn ymwneud â hiliaeth.

Cael a chael mewn rhai taleithiau

Yn New Hampshire, un o’r taleithiau cyntaf i bleidleisio, mae Joe Biden wedi ennill pum pleidlais tref Dixville Notch, tra bod Donald Trump wedi ennill 16 o bleidleisiau ym Millsfield o gymharu â phump i Joe Biden.

Yn Pennsylvania mae disgwyl y canlyniad agosaf, ac fe fu’r ddau yno yn canfasio yn nyddiau ola’r ymgyrch. Yno fe wnaeth yr arlywydd fygwth cyfraith er mwyn atal pleidleisiau rhag cael eu cyfri ar ôl diwrnod yr etholiad.

Mae’n dadlau y gallai’r rhai sy’n cyfri dwyllo pe bai’r broses yn para mwy na diwrnod, ac mae wedi bod yn drydar am y posibilrwydd o drais yn y strydoedd sydd wedi bod yn dawel iawn hyd yn hyn.

Mae Joe Biden wedi gwrthod cael ei dynnu i ganol ffrae â’r arlywydd ynghylch y mater, ond fe wnaeth e ladd ar Donald Trump yn Pittsburgh, lle wnaeth e feirniadu agwedd ei wrthwynebydd wrth ddweud ei fod yn credu mai “dim ond pobol gyfoethog ddylai bleidleisio” ac fe dynnodd e sylw at y nifer fawr o bobol groenddu sy’n dioddef yn fwy na neb arall yn sgil y coronafeirws.

Fe ddywedodd fod Donald Trump yn “llawn casineb a methiant” a’i fod yn “anghyfrifol”.

Mae angen 270 o bleidleisiau’r Coleg Etholiadol er mwyn ennill y ras.

Y taleithiau allweddol

Mae Donald Trump wedi bod yn canolbwyntio’n ddiweddar ar daleithiau o Ogledd Carolina i Wisconsin, gan orffen ym Michigan.

Mae Joe Biden wedi treulio cryn dipyn o amser yn Pennsylvania, lle byddai buddugoliaeth i’r Democrat yn rhoi cryn bwysau ar yr arlywydd Gweriniaethol.

Mae e hefyd wedi bod yn Ohio, lle cipiodd Donald Trump fuddugoliaeth o wyth pwynt canran bedair blynedd yn ôl.

Mae bron i 100 miliwn o bleidleisiau eisoes wedi cael eu bwrw trwy’r post neu bleidleisio’n gynnar, ac fe allai hynny arwain at oedi yn y broses o’u cyfri – rhywbeth y bu Donald Trump yn llafar iawn yn ei gylch ers misoedd.