“Damwain drasig” ym Mhrifysgol Bangor wedi arwain at farwolaeth y person cyntaf o wledydd Prydain i ddal y feirws

Bu farw Connor Reed, 26, yn ei neuadd breswyl “er gwaethaf ymdrechion gorau ffrindiau a pharafeddygon”

Y coleg ar y bryn

Prifysgol Bangor

Mae’r myfyriwr fu farw yn neuaddau preswyl Prifysgol Bangor ar Hydref 25 wedi’i enwi.

Connor Reed, 26 oed, oedd y person cyntaf o wledydd Prydain i ddal y coronafeirws.

Yn wreiddiol o Landudno, roedd wedi bod yn gweithio mewn ysgol yn Wuhan pan gafodd ei heintio â’r feirws fis Rhagfyr y llynedd.

Dydy ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

“Mae ein mab Connor Reed wedi marw mewn damwain drasig ym Mhrifysgol Bangor dros y penwythnos,” meddai ei fam mewn neges ar wefan gymdeithasol Facebook.

“Bydd ei frodyr, ei deulu a’i ffrindiau yn ei golli gymaint.

“Roedd ganddo wastad wên, cariad a brwdfrydedd am fywyd. Rydym wedi ein bendithio i fod wedi dy gael yn ein bywydau hyd yn oed am gyfnod byr iawn. Cwsg mewn hedd cariad.”

“Methu mynd i’w angladd”

Fydd ei deulu ddim yn gallu mynd i’w angladd yng Nghymru gan eu bod yn Awstralia.

“Ni fyddwn yn gallu mynychu ei angladd yn y DU oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws, felly byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn dathlu ei fywyd yn ei gartref yn Awstralia,” meddai ei fam wrth The Sun.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor fod “ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r myfyriwr ar yr adeg drist iawn hon”.

“Mae lles myfyrwyr yn flaenoriaeth yn y brifysgol ac rydym yn cynnig cymorth i fyfyrwyr mewn neuaddau ac yn y brifysgol a oedd yn adnabod y myfyriwr,” meddai wedyn.

Stori nesaf →

Donald Trump a Joe Biden yn ymgyrchu am y tro olaf cyn yr etholiad arlywyddol

Yr arlywydd yn mynnu bod y canlyniad wedi cael ei drefnu ymlaen llaw, a’i wrthwynebydd yn canolbwyntio ar ymdriniaeth yr arlywydd o’r coronafeirws

Hefyd →

“Diwrnod trist eithriadol” ar ôl i Lancaiach Fawr gau am y tro olaf

Mae’r penderfyniad yn rhan o gynlluniau Cyngor Caerffili i wneud toriadau ariannol