Mae rhieni plant wnaeth dorri rheolau’r coronafeirws ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol wedi cael dirwy gan Heddlu’r De.

Derbyniodd yr heddlu bron i 1,500 o alwadau ar Ddydd Calan Gaeaf (dydd Sadwrn, Hydref 31), ac roedd dros 200 ohonyn nhw’n ymwneud â thorri rheolau’r coronafeirws a phryderon am arferion Calan Gaeaf.

Ymhlith y cwynion roedd y ffaith fod grwpiau o bobol ifanc yn ymgynnull, yn cynnal partïon, safleoedd trwyddedig yn torri rheolau’r drwydded, pobol ddim yn hunanynysu a phobol yn ymgynnull ar safleoedd addoldai.

Yn ôl yr heddlu, fe wnaethon nhw roi:

  • Tua 30 o Hysbysiadau Cosb Benodedig am daflu wyau ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn Llaneirwg yng Nghaerdydd, ac i rieni pobol ifanc aeth i barti yn ardal Taibach ger Port Talbot oedd wedi ffoi wrth i’r heddlu gyrraedd
  • 137 o rybuddion neu gamau tebyg
  • Pump o drosglwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Ymweliadau â sawl lleoliad, gan gynnwys tafarn yng Nghastell-nedd oedd yn parhau i weini yn ystod y cyfnod clo dros dro. Cafodd manylion cwsmeriaid eu nodi yn y fan a’r lle, ac fe fydd camau yn erbyn deilydd y drwydded
  • Bron i 50 o Gytundebau Ymddygiad Derbyniol i fyfyrwyr mewn neuadd breswyl yng Nghaerdydd yn dilyn adroddiadau bod parti wedi’i gynnal

Mae’r heddlu hefyd yn ymchwilio i brotestiadau, achosion eraill o dorri amodau trwyddedau a phartïon.